#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; a’r Alban ac Iwerddon. Y cyfnod a gwmpesir yw rhwng 20 Medi a 4 Hydref, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer

cydgysylltu gweithgareddau cysylltiedig â Brexit y Pwyllgorau. Mae’r Pwyllgor yn cynnal

ymchwiliad ar Adael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru.

 

Bydd diweddariadau rheolaidd ar waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar Flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/.

Yr wythnos diwethaf edrychodd y Pwyllgor ar yr effaith ar Addysg Uwch, gyda’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe. Yr wythnos hon cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ar oblygiadau gadael yr UE i’r sector amaethyddiaeth a physgodfeydd, ac yr wythnos nesaf bydd yn edrych ar wasanaethau cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, a llywodraeth leol.

Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn amlinellu nifer o faterion sydd wedi dod i’r amlwg o’r sesiynau cychwynnol hyn, cyn y sesiwn graffu a drefnwyd ar gyfer 7 Tachwedd. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi ysgrifennu at David Davies AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE, ac Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn eu gwahodd i ymddangos gerbron y Pwyllgor.

 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymchwiliad i edrych ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru, gan gynnwys ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Mewn sesiwn dystiolaeth ar 28 Medi, clywodd y Pwyllgor am y posibiliadau ar gyfer y cyfnod yn syth ar ôl Gadael yr UE, a beth a allai ffocws y polisi fod yn yr hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth a materion gwledig.

Arall

Mae sawl un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn trafod ymchwiliadau posibl i faterion Gadael yr UE ac, wrth i’r rhain ddod yn fwy cadarn, byddwn yn cynnwys manylion yn eu cylch yn y papur hwn ar y Wybodaeth Ddiweddaraf ynglŷn â Gadael yr UE.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

 Ar 21 Medi y cytunodd y Cynulliad ar gynnig ar y Farchnad Sengl:

1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael mynediad at Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch symudiad rhydd pobl rhwng y DU a’r UE, ar ôl i’r DU adael yr UE.

3. Yn croesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau y ceir y fargen orau i Gymru.

Llywodraeth Cymru

Ar 28 Medi roedd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog yn arwain cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Ewrop.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi sefydlu Gweithgor Addysg Uwch ar Adael yr UE, a gyfarfu am y tro cyntaf ar 28 Medi.

Ar 29 Medi, cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y caiff mwy na £16m o arian yr UE ei fuddsoddi mewn dau brosiect yng Ngogledd Cymru: un yn canolbwyntio ar y sector ynni morol, a’r llall ar raglenni hyfforddi ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan ddiweithdra hirdymor ac anweithgarwch economaidd.

Mae Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi y bydd cyfnod datgan diddordeb ar gyfer cynllun gwerth £1.5 miliwn i gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr organig yn dechrau ar 17 Hydref, 2016.

Rhanddeiliaid o Gymru

Mae NFU Cymru wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet, i amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer darparu’r Cynllun Datblygu Gwledig yn ystod y cyfnod pontio o’r UE.

 

3.       Datblygiadau ar lefel yr UE

Y Farchnad Sengl

Mae’r Farchnad Sengl yn parhau’n thema amlwg yn y trafodaethau ar adael yr UE, ynghyd â’r mater o hyblygrwydd (neu beidio) o ran rhyddid i symud.

Er enghraifft, ar 29 Medi gofynnwyd i Matteo Renzi, Prif Weinidog yr Eidal a ellid cael "hyblygrwydd" o ran rheolau’r UE ynghylch rhyddid i symud a mynediad i’r farchnad sengl. Dywedodd ei fod yn credu fod hon yn ddadl ddiddorol iawn, oherwydd bydd yn ddadl ynghylch y cysyniad o reolau yn yr UE. Dywedodd hefyd na allai’r ddadl ddechrau nes i’r DU sbarduno erthygl 50, sef y weithdrefn swyddogol ar gyfer dechrau gadael yr UE, a rhybuddiodd y bydd yn amhosibl rhoi rhagor o hawliau i bobl Prydain na phobl eraill y tu allan i’r UE.

Mae nifer o arweinwyr busnes hefyd wedi lleisio eu barn yn hyn o beth. Er enghraifft, yn Sioe Foduron Paris ar 28 Medi, dyfynnwyd Mike Hawes, Prif Weithredwr Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT), a ddywedodd fod aelodau’r gymdeithas yn bryderus iawn y gallai cyflwr y diwydiant modurol a’i lwyddiant yn y dyfodol fod yn y fantol os nad ydym yn y farchnad sengl.

Mae penaethiaid cwmni Nissan, cwmni Toyota a chwmni Jaguar Land Rover hefyd wedi sôn am yr angen i adolygu eu penderfyniadau buddsoddi a chodwyd y posibilrwydd o iawndal os bydd masnach rhwng y DU a’r UE yn amodol ar dariffau.

Ar 23 Medi, rhoddodd Wolfgang Schäuble, Gweinidog Cyllid yr Almaen, a Michel Sapin, Gweinidog Cyllid Ffrainc sylwadau gan Boris Johnson, Ysgrifennydd Tramor Prydain o’r neilltu pan awgrymodd nad oedd dim cyswllt rhwng egwyddor yr UE o ran rhyddid i symud a mynediad at ei marchnad sengl, gan ddweud y gallent anfon copi o Gytuniad Lisbon at Mr Johnson, a hyd yn oed deithio i Lundain i egluro hyn iddo yn Saesneg.

Dywedodd Joseph Muscat, Prif Weinidog Malta wrth y sianel deledu Brydeinig Sky News fod yn rhaid i ‘fargen Brexit’ fod yn israddol i aelodaeth o’r Undeb.

Bu effaith gadael yr UE yn thema amlwg dros y misoedd diwethaf, cyn y Refferendwm ac ar ei ôl. Cafwyd cynnwrf yn y marchnadoedd arian yr wythnos diwethaf yn dilyn araith y Prif Weinidog ar adael yr UE, gyda sterling yn cyrraedd ei lefel isaf ers 31 o flynyddoedd yn erbyn y ddoler.

Cyhoeddodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ei Rhagolwg Economaidd y Byd, a oedd yn cynnwys lleihad yn ei ragolwg ar gyfer twf economaidd yn y DU y flwyddyn nesaf i 1.1 y cant, ac asesiad bod yr adferiad byd-eang yn parhau i fod yn "wan ac yn ansicr".

Ar 27 Medi, cyhoeddodd Sefydliad Masnach y Byd ei rhagolwg masnach. Roedd hwn yn cynnwys y cyfeiriad a ganlyn at Brexit:

The outlook for the remainder of this year and next year is affected by a number of uncertainties, including financial volatility stemming from changes in monetary policy in developed countries, the possibility that growing anti-trade rhetoric will increasingly be reflected in trade policy, and the potential effects of the Brexit vote in the United Kingdom, which has increased uncertainty about future trading arrangements in Europe, a region where trade growth has been relatively strong. 

The UK referendum result did not produce an immediately observable downturn in economic activity as measured by industrial production or employment; the main impact was a 13% drop in the exchange rate of the pound against the US dollar and an 11% decline in its value against the euro. Effects over the longer term remain to be seen. Economic forecasts for the UK in 2017 range from fairly optimistic to quite pessimistic. Our forecast assumes an intermediate case, with a growth slowdown next year but not an outright recession.

Ar 21 Medi roedd y OECD yn rhagweld twf o 1 y cant ar gyfer y DU yn 2017, sy’n is na’r twf o 1.8 y cant eleni (y rhagolwg cyn y Refferendwm ar gyfer 2017 oedd twf o 2 y cant). Ar gyfer ardal yr Ewro, yr amcanestyniad yw 1.4 y cant y flwyddyn nesaf, sy’n is na’r 1.5 y cant eleni:

Global GDP growth is projected to remain flat around 3% in 2016 with only a modest improvement projected in 2017. This forecast is largely unchanged since June 2016 with weaker conditions in advanced economies, including the effects of Brexit, offset by a gradual improvement in major emerging market commodity producers.

Hefyd ar 21 Medi, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei Hasesiad o economi’r DU ar ôl y Refferendwm: Medi 2016. Dywedodd y Prif Economegydd:

As the available information grows, the referendum result appears, so far, not to have had a major effect on the UK economy. So it hasn’t fallen at the first fence but longer-term effects remain to be seen. The index of services published soon and the preliminary estimate of third quarter GDP, published at the end of October will add significantly to the evidence.

Y Cyngor Ewropeaidd / Cyngor y Gweinidogion

Dim i’w nodi.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Ar 29 Medi y cyfeiriodd y Comisiwn y Deyrnas Unedig at y Llys yn sgîl ei methiant i gynnig safleoedd ar gyfer amddiffyn y llamhidydd.

Senedd Ewrop

Ar 29 Medi cynhaliodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol (AFCO) Senedd Ewrop sesiwn ar ganlyniadau pleidlais Refferendwm yr UE, gyda chyflwyniadau gan arbenigwyr fel: Guntram Wolff (Cyfarwyddwr Bruegel); Giorgio Maganza (cyn Gyfarwyddwr Materion Sefydliadol yng Nghyngor yr UE); ac Yves Bertoncini (Cyfarwyddwr, Notre Europe). Hefyd comisiynodd y Pwyllgor hwn nifer o astudiaethau ar oblygiadau gadael yr UE, sydd wedi cael eu paratoi gan adran bolisi Senedd Ewrop ac sydd ar gael o’r linchwn.

Unwaith y bydd y trafodaethau ar adael yr UE yn dechrau, bydd Senedd Ewrop yn bartner cyfrifol a gweithgar, yn ôl yr hyn a ddywedodd Martin Schulz, Llywydd Senedd Ewrop wrth Theresa May, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar 23 Medi.

Ar 20 Medi cynhaliodd Swyddfa Wybodaeth Senedd Ewrop yn y DU ddadl ar Sylw i Refferendwm yr UE yn y wasg Brydeinig.

Arall: cyfryngau’r UE

Europe unimpressed by May’s tough talk on Brexit  (Politico).

 

4.       Datblygiadau ar lefel y DU

Llywodraeth y DU: Araith y Prif Weinidog

Ar 2 Hydref gwnaeth y Prif Weinidog araithar adael yr UE, yng nghynhadledd y Blaid Dorïaidd, yn cwmpasu nifer o faterion:

§    Erthygl 50: bydd Llywodraeth y DU yn sbarduno’r erthygl hon cyn diwedd mis Mawrth 2017 fan bellaf. Ni fydd yn ymgynghori â dau Dŷ’r Senedd i wneud hyn, gan honni hawl uchelfraint frenhinol, ac y bydd Llywodraeth y DU yn amddiffyn y sefyllfa hon yn y llysoedd.

§    Bil y Diddymu Mawr: i’w gyflwyno yn ystod Araith nesaf y Frenhines, bydd y Bil yn dileu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o’r llyfr statud, ac yn ymgorffori holl gyfraith bresennol yr UE yng nghyfraith Prydain. Bydd y Bil yn galluogi Senedd y DU i ddiwygio a chanslo unrhyw ddeddfwriaeth nad oes mo’i hangen (yn amodol ar ymrwymiadau rhyngwladol a chysylltiadau masnach â’r UE yn y dyfodol) a hefyd yn dwyn i ben awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn y DU. Ni fydd diddymu Deddf 1972 yn dod i rym nes y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o dan Erthygl 50. Nid oedd araith y Prif Weinidog yn cyfeirio at rôl y Deddfwrfeydd Datganoledig yn y broses hon.

§    Rheolaeth dros fewnfudo: bydd y DU yn penderfynu ar ei rheolau mewnfudo ei hun ar ôl gadael yr UE.

§    Hawliau gweithwyr: Rhoddodd y Prif Weinidog ymrwymiad i ddiogelu hawliau presennol gweithwyr, sydd wedi’u hymgorffori o dan gyfraith yr UE, ac i wella’r rhain ymhellach.

§    Dim optio allan, un Deyrnas Unedig: Bydd y trafodaethau ar adael yr UE yn cael eu cynnal ar sail y DU, a bydd y DU fel un Deyrnas Unedig - nid oes optio allan o ran gadael yr UE, a dywedodd y Prif Weinidog: “I will never allow divisive nationalists to undermine the precious union between the four nations of our United Kingdom”.

§    Dim model tebyg: Ni fydd y trafodaethau gyda’r UE yn ymwneud â chopïo model arall, sef model Norwy neu fodel y Swistir. Cytundeb a fydd rhwng y Deyrnas Unedig, sy’n sofran annibynnol, a’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y ffocws ar fasnach rydd, o ran nwyddau a gwasanaethau, gyda’r nod o roi’r rhyddid mwyaf posibl i gwmnïau Prydeinig fasnachu â’r farchnad sengl ac i weithredu ynddi - a gadael i fusnesau Ewrop wneud yr un peth yn y DU.

Gwnaed asesiad cychwynnol o araith y Prif Weinidog a syniad y Great Repeal Bill gan                                                        Yr Athro Mark Elliott, Athro mewn Cyfraith Gyhoeddus ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar y wefan Cyfraith Gyhoeddus i Bawb.

Ar 29 Medi bu Theresa May yn siarad â Bohuslav Sobotka, Prif Weinidog y Weriniaeth Tsiec, ac ar 27 Medi cyfarfu â’r Llywydd Anastasiades o Gyprus, a siaradodd hefyd â Charles Michel, Prif Weinidog Gwlad Belg fel rhan o’i chylch parhaus o ymgynghori ar adael yr UE.

Ar 27 Medi, dywedodd Boris Johnson AS, yr Ysgrifennydd Tramor, y bydd y DU yn cynorthwyo Twrci i ymuno â’r UE.

Llywodraeth y DU: Y wybodaeth ddiweddaraf am warant cyllid yr UE

Ar 3 Hydref cyhoeddodd Philip Hammond AS, Canghellor y Trysorlys y DU wybodaeth am warant cyllid ddiweddaraf Llywodraeth y DU i gefnogi prosiectau sy’n cael cyllid o dan y cylch presennol o raglenni’r UE. Mae hyn yn dilyn y warant wreiddiol a gyhoeddwyd gan y Canghellor ym mis Awst.

Roedd y datganiad ym mis Awst yn nodi terfyn amser i’r warant gynnwys prosiectau a gyflwynwyd cyn Datganiad yr Hydref 2016 (h.y. amser ym mis Tachwedd 2016 yn wir). Mae Datganiad mis Hydref yn ymestyn y terfyn amser hwn at ‘yr amser y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd’, yn dilyn pwysau gan y Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru i’r dyddiad terfyn gael ei ymestyn. Mae hyn yn rhoi pob gobaith y byddai’r warant yn para o leiaf tan ddechrau 2019, o gofio cyhoeddiad y Prif Weinidog yng Nghynhadledd y Blaid Dorïaidd ar 2 Hydref am ei bwriad i sbarduno Erthygl 50 cyn diwedd mis Mawrth 2017, ac o gofio’r disgwyliad cyffredinol y byddai’r trafodaethau ar adael yn cymryd o leiaf 2 flynedd (yr amserlen a osodwyd yn Erthygl 50, y gellir ei hymestyn os bydd cytundeb unfrydol gan y saith gwlad ar hugain sy’n aelodau o’r UE, a’r DU, i wneud hyn).

Mae’r datganiad ym mis Hydref yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU:

guarantee EU funding for structural and investment fund projects, including agri-environment schemes, signed after the Autumn Statement and which continue after we have left the EU.

… These conditions will be applied in such a way that the current pipeline of committed projects are not disrupted, including agri-environment schemes due to begin this January.

… Where the devolved administrations sign up to structural and investment fund projects under their current EU budget allocation prior to Brexit, the government will ensure they are funded to meet these commitments..

Mae’r cyfeiriadau penodol at gynlluniau amaeth-amgylcheddol sydd i ddechrau ym mis Ionawr yn lleddfu’r pryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru am yr ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer y cynlluniau hyn, ac nad oeddent wedi cael sylw yn natganiad yr Hydref gwreiddiol y Canghellor. Nid yw Llywodraeth Cymru (ar adeg ysgrifennu hwn) eto wedi ymateb yn ffurfiol i’r datganiad diweddaraf, fodd bynnag, roedd Prif Weinidog Cymru, mewn ymateb i’r datganiad ym mis Awst gan Mr Hammond, wedi galw am ymestyn y warant hyd at 2023, i gynnwys y cyfnod ariannu presennol (sy’n rhedeg o 2014 hyd at 2020) yn ei gyfanrwydd.

Tŷ’r Cyffredin

Mae Tŷ’r Cyffredin wedi bod mewn cyfnod o doriad rhwng 15 Medi a 10 Hydref. Fodd bynnag, mae nifer o Bwyllgorau wedi cyhoeddi ceisiadau am dystiolaeth yn ystod y cyfnod hwn:

§    Ar 20 Medi cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Iechyd alwad am dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad newydd ar Brexit ac iechyd a gofal cymdeithasol.

§    Ar 29 Medi cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Addysg alwad am dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad newydd ar Effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar addysg uwch .

Mae Pwyllgor newydd ar Adael yr UE hefyd yn cael ei sefydlu, ac rydym yn deall bod y bleidlais i ethol Cadeirydd (a fydd yn dod o’r Blaid Lafur) wedi’i threfnu ar gyfer 19 Hydref.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi a’i chwech o Is-bwyllgorau yn cynnal " cyfres o ymchwiliadau cydgysylltiedig ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd ar ddod ar Brexit".

Fel yn achos Tŷ’r Cyffredin, bu Tŷ’r Arglwyddi mewn cyfnod o doriad o 15 Medi tan 10 Hydref.

Cynhaliodd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar yr UE (y Cadeirydd yw’r Arglwydd Boswell) sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ar 11 Hydref fel rhan o’i ymchwiliad i Brexit: Cysylltiadau’r DU ac Iwerddon.

Bydd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE Tŷ’r Arglwyddi a’u His-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE yn cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ar 13 Hydref, fel rhan o’u hymchwiliad ar y cyd i Brexit: cysylltiadau masnach yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE.

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol

Ar 22 Medi clywodd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol dystiolaeth ar Oblygiadau canlyniadau Refferendwm yr UE ar gyfer yr Alban: cysylltiadau rhynglywodraethol

Ar 29 Medi: Goblygiadau canlyniad Refferendwm yr UE ar gyfer yr Alban. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog a swyddog o Lywodraeth yr Alban, a dau ASE o’r Alban.

Trafododd Pwyllgor Strategaeth Undeb Ewropeaidd Senedd yr Alban, a chlywodd dystiolaeth gan lysgennad Slofacia.

Dadl Senedd yr Alban

Ar 27 Medi bu’r Senedd yn trafod Sicrhau buddiannau’r Economi Wledig yn yr Alban yn dilyn Refferendwm yr UE .

Bu’r Senedd yn trafod Economi’r Alban: ymateb i’r Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ar 20 Medi, a diogelu buddiannau economi wledig yr Alban yn dilyn y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ar 27 Medi.

Gweinidogion Brexit Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn cyfarfod

Cyfarfu panel o arbenigwyr ar 3 Hydref i drafod Effaith canlyniad Refferendwm yr UE ar yr amgylchedd a newid hinsawdd. Bydd yn darparu cyngor i Gyngor Sefydlog Llywodraeth yr Alban ar Ewrop.

Ar 30 Medi anogodd Michael Matheson, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Lywodraeth y DU i ddewis mabwysiadu fframwaith cydweithredu plismona Ewropeaidd newydd er mwyn sicrhau bod yr heddlu yn parhau i fedru cael gafael ar ddata allweddol ac adnoddau eraill a gaiff eu cadw gan yr asiantaeth Europol, sy’n ymladd troseddau yn yr UE.

Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad y Cyfarwyddwyr ar 27 Medi, disgrifiodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban fod aelodaeth o’r farchnad sengl y "sefyllfa gonsensws amlwg" ymhlith pleidleiswyr dros adael a thros barhau’n rhan o’r Undeb yn y Refferendwm ar yr UE, a dywedodd nad oedd y canlyniad ar gyfer y DU yn fandad ar gyfer Brexit caled.

Ar 26 Medi cyfarfu Fiona Hyslop, yr Ysgrifennydd Materion Allanol â Harlem Désir, Gweinidog Gwladol dros Faterion Ewropeaidd Llywodraeth Ffrainc.

 

6.       Gogledd Iwerddon

Ar 4 Hydref, ymatebodd Máirtín Ó Muilleoir, y Gweinidog Cyllid  i ddatganiad y Canghellor Hammond ar geisiadau cronfeydd strwythurol a heddwch yr UE.

Ar 22 Medi cafodd y Pwyllgor Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig sesiwn briffio llafar gan eu gwasanaeth ymchwil - Amgylchedd Gogledd Iwerddon - Cefndir ac ystyriaethau posibl o ran Brexit.

Ar 21 Medi a 5 Hydref, cafodd Pwyllgor y Swyddfa Weithredol sesiynau briffio ar Y DU yn Gadael yr UE.

 

7.       Cysylltiadau rhwng Prydain ac Iwerddon

Tŷ’r Oireachtas (Senedd Iwerddon)

Ar 27 Medi, cyfarfu’r Cyd-bwyllgor ar Roi Cytundeb Gwener y Groglith ar waith. Roedd y pwyntiau canlynol ar yr agenda:

§    Goblygiadau Refferendwm y DU i adael yr UE ar y Cytundeb Gwener y Groglith;

§    Goblygiadau cyllidol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn sgîl penderfyniad Refferendwm y DU i adael yr UE [Mr Máirtín Ó Muilleoir MLA, Gweinidog Cyllid, Gogledd Iwerddon]

Ar 4 Hydref, cynhaliwyd cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor ar Faterion yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys canlyniadau Uwchgynhadledd Bratislava, a phenderfyniad y DU i adael yr UE [y Gweinidog Gwladol dros Faterion Ewropeaidd]. Gwnaeth y Gweinidog ddatganiad yn y Senedd drannoeth hefyd.

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd:

Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin:

§    EU budget and the UK’s contribution Mae’r nodyn hwn yn ystyried gwariant yr UE, a sut y mae’n cael ei hariannu. Mae’n cynnwys cyfraniadau a derbyniadau y DU i ac o gyllideb yr UE ac yn trafod ad-daliad y DU.

Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi:

§    Brexit round-up (Crynodeb o’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â Brexit yn Nhŷ’r Arglwyddi)

 

Senedd yr Alban

§    Goblygiadau tynnu allan o’r UE o ran y setliad datganoli, yr Athro Alan Page, Athro yn y Gyfraith Gyhoeddus, Prifysgol Dundee (2.4Mb Pdf). Comisiynwyd y papur hwn gan Bwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol, Senedd yr Alban  ac mae’n rhan o gyfres o astudiaethau a gomisiynwyd gan y Pwyllgor hwn i edrych ar oblygiadau tynnu allan o’r UE ar gyfer yr Alban.